Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 10 Gorffennaf 2019
Amser:
09.34 -
12.14
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5516
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Bethan Sayed AC (Cadeirydd) Mick Antoniw AC John Griffiths AC Delyth Jewell AC David Melding AC |
Tystion: |
Shan Morgan, Llywodraeth Cymru Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Dylan Hughes, Llywodraeth Cymru Bethan Webb, Llywodraeth Cymru Barwnes Kay Andrews OBE |
Staff y Pwyllgor: |
Robert Donovan (Clerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Carwyn Jones AC.
Am 10.00am, nododd y Pwyllgor funud o dawelwch er cof am y ddau unigolyn a gollodd eu bywydau yn y digwyddiad rheilffyrdd trasig ym Margam yr wythnos diwethaf.
2.1 Atebodd yr Ysgrifennydd Parhaol a Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
2.2 Cytunodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i ddarparu manylion ynghylch pa wyliau a gafodd arian eleni.
2.3 Cytunodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol hefyd i ddarparu rhagor o fanylion am y rhaglen ddigidol e-sgol.
2.4 Cytunodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i ddarparu gwybodaeth am gynllun Camau a chyflwyno cynlluniau meithrin.
2.5 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol a Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i roi gwybod i ni am ddatblygiad y strategaeth Iaith Gymraeg newydd.
2.6 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol a Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i ddarparu manylion am y cwynion a gafwyd ynghylch Safonau’r Gymraeg.
3.1 Bu’r Farwnes Kay Andrews OBE yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
4.1 Nododd yr Aelodau y papur.
4.2 Nododd yr Aelodau y papur.
4.3 Nododd yr Aelodau y papur.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law yn ei sesiwn dystiolaeth ar 26 Mehefin a’r sesiwn dystiolaeth yng nghyfarfod heddiw.
7.1 Cynhaliodd yr Aelodau drafodaeth cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor.